TABERNACL TREFORYS

“cadeirlan” y capeli

Croeso

Stori am eglwys a chymuned yn cydweithio i adfer un o ddwsin yn unig o gapeli rhestredig Gradd 1 Cymru, y mwyaf a'r uchaf, sydd ar y tudalennau sy'n dilyn.

Heblaw ei rinweddau pensaernïol, mae'r Tabernacl Treforys yn dal yn ganolfan grefyddol a diwylliannol yng Nghwm Tawe isaf wrth iddo ddathlu ei 140ed penblwydd.

Stori hapus am ymdrech a llwyddiant mor belled, sy'n rhoi'r adeilad mewn cyflwr gwell nag mewn cof byw. Ond, mae'r patrymau, ledled gwlad, o ddirywiad cynulleidfaoedd, aelodaeth a chyfraniadau yn codi cwestiynau difrifol ynghylch ei ddyfodol, yn enwedig am allu'r eglwys i godi'r 60% sy'n ofynnol i gyfateb unryw grant gan CADW, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, tuag at waith cynnal. Wedi'i sefydlu fel Eglwys Annibynnol Gymraeg, ni all dderbyn cymorth ariannol gan unryw gorff enwadol.

Os cewch eich ysgogi gan yr adeilad Fictoraidd gwych hwn, yn drethdalwr y DU, ac am chwarae rhan i ddiogelu ei ddyfodol drwy wneud cyfraniad, cysylltwch â ni, gan gynnwys eich cyfeiriad post llawn.Fe ddanfonwn amlen atoch i chwyddo'ch cyfraniad drwy gyfrwng Gift Aid.

Morriston RC Choir at Morriston Tabernacle